Grwp holl-amatur a Saesneg fel rheol yw Cymdeithas Theatrig Amatur Bishopston (Bishopston Amateur Theatrical Society, neu BATS). Gall unrhywun ymuno â’r Grwp, un ai fel actor, neu er mwyn cyfarwyddo, neu weithio tu cefn y llwyfan neu flaen y ty. Mae’r holl gynyrchiadau yn Saesneg.
Mae’r Pwyllgor yn cynnwys ar hyn o bryd chwe o bobl: y Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Trysorydd, Ysgrifennydd (sy’n gyfrifol hefyd am farchnata), Ysgrifennydd Cymdeithasol a Rheolwr Llwyfan. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am bennu polisïau a llinellau ar y cyfan. Mae cyfrifoldeb gweithredol am ddarparu drama gyda’r cyfarwyddwr, ac fel hyn mae e’n gyfrifol am ddewis y ddrama, cast, cynhyrchydd, rheolwr llwyfan, tîm llwyfan a tîm blaen-y-ty.
Ers ei ffurfiant ym 1967, mae BATS (STADS tan 1999) wedi bod yn darparu adloniant theatraidd byw cyson i bentre de Gwyr Bishopston a’i gyffiniau.
Amcanion y wefan ‘ma yw:
- Darparu cofnod hygyrch o ran bwysig hanes diwylliannol diweddar Bishopston a de Gwyr;
- sbrydoli pobl leol am ymuno â’r grwp: dyn ni’n chwilio bob amser am actorion ac actoresau newydd, a pobl sy’n gallu helpu gyda gwisgoedd, colur, gwerthu tocynnau, lluniaeth, syniadau ac yn y blaen – dim profiad yn angenrheidiol! A dweud y gwir, mae’n llwyddiant parhaol ni’n dibynnu arnoch chi – felly edrychwch o gwmpas y safle ac wedyn cysylltwch â ni…