BATS Heddiw

Grwp holl-amatur a Saesneg fel rheol yw Cymdeithas Theatrig Amatur Bishopston (Bishopston Amateur Theatrical Society, neu BATS). Gall unrhywun ymuno â’r Grwp, un ai fel actor, neu er mwyn cyfarwyddo, neu weithio tu cefn y llwyfan neu flaen y ty. Mae’r holl gynyrchiadau yn Saesneg.

Mae’r Pwyllgor yn cynnwys ar hyn o bryd chwe o bobl: y Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Trysorydd, Ysgrifennydd (sy’n gyfrifol hefyd am farchnata), Ysgrifennydd Cymdeithasol a Rheolwr Llwyfan. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am bennu polisïau a llinellau ar y cyfan. Mae cyfrifoldeb gweithredol am ddarparu drama gyda’r cyfarwyddwr, ac fel hyn mae e’n gyfrifol am ddewis y ddrama, cast, cynhyrchydd, rheolwr llwyfan, tîm llwyfan a tîm blaen-y-ty.

Cyllid

Mae’r Gymdeithas yn gweithredu gyda balans bach yn y banc. Mae’n incwm ni’n dod o’r ffynonellau canlynol: gwerthu lluniaeth; ffi aelodaeth flynyddol fach; ffi oddi wrth noddwyr preifat (enwau wedi’u rhestru yn y rhaglenni); ffi oddi wrth noddwyr busnes am hysbyseb hanner tudalen yn y rhaglen.

Y prif dreuliau yw: llogi’r Neuadd (yn rhad, ond mae’n rhaid talu dro ar ôl tro!), breindaliadau a llyfrau sgript (rhaid i’r Grwp brynu o’r cyhoeddwr un i bob aelod y cast). Mae gwisgoedd, dodrefn a props yn cael eu benthyg pan mae’n bosib; mae’r cast, preswylwyr lleol, busnesau lleol a siopau elusen wedi bod yn garedig iawn dros y blynyddoedd yn hyn o beth, a heb eu cefnogaeth gallai llawer o’r dramâu ddim yn cael eu llwyfannu.

Rafflau

Mae’r cyhoedd yn dangos rhagor o haelfrydedd drwy brynu tocynnau raffl, y mae BATS yn eu gwerthu yn ystod pob perfformiad. Mae’r holl arian o’r gwerthiannau’ma’n mynd at achosion da lleol. Yn ddiweddar mae’r Grwp wedi codi miloedd o bunnoedd.