Hanes

Mae hanes hir gyda Chymdeithas Theatrig Amatur Bishopston (BATS). Cafodd hi ei sefydlu ym 1967 dan ei henw gwreiddiol, St Teilo’s Amateur Dramatic Society (STADS), gan grwp Cristnogion lleol â tueddiadau wrth y theatr, gyda’r bwriad o ddod â theatr fyw i bentre Bishopston (poblogaeth tua 1,700) a’i gyffiniau.

Oedd STADS ei hunan wedi tyfu o Gymdeithas Ddramatig St Teilo wreiddiol; cafodd hi ei sefydlu yn y 1920au er mwyn perfformio dramâu Dioddefaint a Geni a pantomeimau (gyda llawer o blant lleol yn cymryd rhan). Er hynny, fel oedd aelodaeth yr Eglwys yn lleihau, diflannodd y dramâu o fath crefyddol a’r pantomeimau, ond tyfodd y brwdfrydedd am ddramâu dirgelwch a llofruddiaeth a chomedïau, ac felly o 1967 oedd y Grwp yn dechrau llwyfannu dwy ddrama y flwyddyn, un yn y gwanwyn, un yn yr hydre, arfer sy’n parhau heddiw.

Ers bryd hynny, mae hi wedi bod yn angenrheidiol canslo dim ond pum cynhyrchiad, fel rheol oherwydd prinder o actorion! Yr un achlysur difrifol oedd yn 2000-01, pan gafodd dau gynhyrchiad dilynol eu canslo, a chododd y posibilrwydd o ymwasgaru. Wrth lwc, er hynny, gwellodd y Grwp a chynhyrchiad rhif 86 BATS oedd The Shell Seekers, a 40fed penblwydd y Grwp.

St Teilo

Mae’r Grwp wedi perfformio ac ymarfer bob amser yn Neuadd Eglwys St Teilo ym Bishopston. Mae’r Neuadd yn gyfleus iawn i gynulleidfaoedd lleol, gyda digon o leoedd parcio yn agos, ond dim yn union yn ddelfrydol i anghenion amdram: er fod y nifer o seddi (80) yn rhesymol, mae’r llwyfan ei hunan dim ond 17 troedfedd o led a 12 troedfedd o ddyfnder! Mae hyn yn meddwl bod hi’n amhosib cyrraedd un ochor y llwyfan tu ôl i’r olygfa o’r llall fel rheol, a weithiau oedd rhaid i actorion adael yr adeilad i gyrraedd yr ochor arall! Hefyd mae dim ond un stafell gefn y llwyfan, sy’n gorfod gweithredu felly fel stafell newid, ‘stafell gwerdd’ a chegin. Yn anghredadwy, mae gwaith adeiladu dros y blynyddoedd wedi gwneud y Neuadd yn fwy nag oedd hi cyn sefydliad STADS…

Ym 1999 newidodd y Gymdeithas ei henw i BATS er mwyn mynegi’r ffaith does dim rhaid i aelodau’r Grwp fod yn aelod yr Eglwys ers amser maith.

Er hynny, ac ystyried y cysylltiad hir â’r Eglwys, mae’r Gymdeithas wedi gofalu bob amser llwyfannu dramâu sy’n llai tebyg o ddigio’r nifer uchel o aelodau’r gynulleidfa sy’n mynd i’r eglwys. Hyd yma dyn ni heb berfformio gweithiau gan Dennis Potter neu Harold Pinter! Ar y llaw arall, mae’r holl ddramâu hyd yn hyn wedi dod o’r 20fed ganrif, cymysgedd hyfryd o repertoire amdram arferol a gweithiau newydd eu sgrifennu/cyhoeddi gan awduron nad ydy’r gynulleidfa eu nabod, efallai. (Serch hynny mae’r dramâu gwisg yn arfer cael eu hosgoi (eithriad nodedig oedd Jane Eyre): i grwp bach fel BATS, mae llogi gwisgoedd yn rhy gostus.)

Ar y Rhyngrwyd

Yn 2004 aeth BATS yn tra modern a chafodd hi o’r diwedd ei gwefan ei hunan. Oedd Dorothy Morris, aelod y Grwp ers Ionawr 1968 (ac yn gysylltiedig â chynyrchiadau BATS/STADS i gyd ers hynny ac o hyd!), wedi casglu pentwr o raglenni a ffotos (llawer ohonyn nhw o safon uchel oddi wrth y South Wales Evening Post) yn darparu cofnod llwyr bron â bod o bob cynhyrchiad STADS a BATS. Cafodd y manylion o bob rhaglen eu teipio, ac ugeiniau o luniau eu sganio a’u golygu, a dyma’n gwefan! Tua diwedd 2007 cafodd y safle olwg ‘fodernach’ a chôd HTML newydd, er mwyn gwneud hi’n haws i lawrlwytho’r tudalennu gyda ffonau symudol (wel, pwy a wyr!), ac i baratoi’r safle cyfan ar gyfer cyfieithiad i’r Gymraeg.

BATS yn Gymraeg

Ym mis Chwefror 2008 cafodd cyfiethiad y wefan gyfan ei gwblhau, ac yna oedd gyda BATS un o’r safleoedd amdram manwla ar gael yn y Gymraeg. Heblaw ychydig iawn o eithriadau, mae’r tudalennau Cymraeg i gyd yn gyfieithiadau manwl y tudalennu Saesneg. Mae strwythur y safle’n unfath.

Beth bynnag, mae’r wefan wedi rhoi i BATS, Bishopston a’r cyffiniau gofnod parhaol o ran bwysig eu hanes diwylliannol diweddar yn lleol.